Ymgynghoriaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Fel arbenigwr Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ACaRh Cymru , mae gan Judith brofiad helaeth o ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyfer:
- Lleoliadau cyn-ysgol
- Uwch dimau rheoli ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig
- Athrawon dosbarth a staff cymorth
- Athrawon arweiniol ACaRh
- Awdurdodau lleol
- Consortia addysg
- Gweithwyr iechyd proffesiynol ac asiantaethau cysylltiedig.
Mae arbenigedd Judith wedi galluogi ysgolion i sefydlu ACaRh ysgol gyfan sydd yn seiliedig ar gydraddoldeb cynhwysol, holistig, hawliau ac ecwiti rhywedd.
Mae Judith wedi cynhyrchu ddogfennau a chanllawiau amrywiol i gynorthwyo ysgolion wrth iddynt gynllunio, datblygu a chynhyrchu rhaglen addysgu ACaRh ysgol gyfan wedi ei arwain gan ddisgyblion.
Mae canllawiau a dogfennau cynllunio ar gyfer ysgolion yn cynnwys:
- Ffeithlun defnyddiol 'Y Daith Tuag at Statws Gorfodol' sy'n disgrifio prosesau cynllunio ysgol gyfan.
- Polisi 'ACaRh ' enghreifftiol ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.
- Offeryn archwilio ACaRh ar gyfer ysgolion i gael dealltwriaeth glir o'r ddarpariaeth bresennol ac adnabod y meysydd sydd angen datblygiadau i’r dyfodol.
- Gweithgareddau ymgynghori â dysgwyr cynradd ac uwchradd i roi cyfleoedd i ddysgwyr leisio eu barn ar raglen addysgu a dysgu ACaRh ysgolion.
- Cynlluniau gwaith ysgol gyfan cynradd ac uwchradd. Mae'r themâu o fewn y cynlluniau gwaith wedi'u mapio yn erbyn y disgrifiadau dysgu o fewn yr Meysydd Dysgu a Phrofiad, Cwricwlwm Cymru 2020. Seilir y deilliannau dysgu o fewn y cynlluniau gwaith ar Ganllawiau Technegol Rhyngwladol UNESCO 2018 ar Addysg Rhyw.
- Cyflwyniad PowerPoint ar gyfer rhannu gwybodaeth â'r corff llywodraethu.
- Cyflwyniad PowerPoint ar gyfer rhannu gwybodaeth â rhieni/gofalwyr.
- Taflen rhannu gwybodaeth i rieni/gofalwyr.
Cynlluniau gwersi manwl ar:
- Cyffwrdd priodol ac amhriodol
- Teuluoedd amrywiol a gwerthfawrogi gwahaniaethau
- Perthnasoedd iach a rhai nad yw’n iach
- Hylendid personol
- Prif organau'r corff gan gynnwys yr organau atgenhedlu
- Sut i gadw'n iach yn ystod glasoed - atal ysmygu, atal alcohol, hybu hunan-barch
- Glasoed
- Mislif
- Diffinio ac archwilio agweddau a rhagfarn LGBTQ +
- Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd
- Perthnasoedd iach yn seiliedig ar barch at y naill a’r llall a chydraddoldeb
- Arfer niweidio diwyllianol (Anffurfio//Torri Organau Cenhedlu Menywod (FGM/C)
- Cydsyniad rhywiol
- Arddangos y defnydd o gondomau
- Atal cenhedlu
- Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
Adnoddau addysgol unigryw
Fel arbenigwr yn ACaRh mae gan Judith brofiad eang o ymchwilio a chreu adnoddau pwrpasol ar gyfer sectorau cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig.
Ymgynghoriad am ddim
Cynigir ymgynghoriad am ddim i drafod eich gofynion, mae croeso i chi gysylltu â Judith drwy e-bost.
Efallai y byddwch am gomisiynu rhaglen hyfforddi bwrpasol wedi'i theilwra i weddu i'ch anghenion dysgu. Gall yr opsiwn hwn ganiatáu hyblygrwydd a chaiff ei ystyried yn ffordd gost-effeithiol o wneud y gorau o’r dysgu. Mae croeso i chi gysylltu â Judith i drafod eich gofynion drwy e-bost.