Amdanom

Crëwr a Rheolwr Gyfarwyddwr Teach Health 4 Kids - Judith Roberts, RGN, DPP, B.A. (Anrh) Addysg & Hyfforddiant, T. A. O. R., Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus.

Rwyf wedi gweithio i hyrwyddo a diogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc dros 20 mlynedd. Cyn hynny roeddwn yn gweithio fel Nyrs Practis.

Mae fy nghefndir ym maes iechyd ac addysg wedi fy ngalluogi i weithio ar lefel uwch i gefnogi a chynghori gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ac iechyd ar hyrwyddo ac amddiffyn iechyd a lles cymunedau ysgol gyfan.

Mae gen i brofiad o faterion Diogelu ac ‘rwyf yn frwd dros sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn rhag niwed. Mae tystiolaeth wrth ddefnyddio'r adnoddau rhyngweithiol a'r strategaeth addysgu gysylltiedig wedi arddangos eu heffeithiolrwydd o ran hyrwyddo diogelwch personol plant yn enwedig o gam-drin rhywiol.

Mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad o ddatblygu a darparu hyfforddiant i athrawon, staff ysgol a gweithwyr iechyd proffesiynol. Prif themâu'r hyfforddiant a ddarperwyd oedd addysg rhyw a pherthnasoedd ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, amser cylch, sefydlu strategaethau cyfranogiad ysgol gyfan, datblygu cynghorau ysgol effeithiol, hylendid, iechyd a lles staff a dulliau ysgol gyfan o fwyta'n iach.

Rwyf wedi cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol ac Ewropeaidd ar bynciau sy'n ymwneud ag iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Mae gen i flynyddoedd lawer o brofiad o gynghori ysgolion ar agweddau ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac Iechyd.

Mae gen i brofiad helaeth o addysg rhyw a pherthnasoedd a hybu iechyd rhywiol pobl ifanc. Bûm yn allweddol wrth sefydlu gwasanaethau atal cenhedlu ym mhob clinig galw-mewn mewn ysgolion uwchradd a hwylusir gan Nyrsys Ysgol ar lefel Sirol leol yn ogystal â chynorthwyo gweithwyr proffesiynol i efelychu'r broses mewn lleoliadau eraill.

Mae gennyf brofiad o ddarparu cyngor a chefnogaeth ar sail Cymru gyfan mewn perthynas ag addysg rhyw a pherthnasoedd.

Yn ddiweddar, rwyf wedi creu adnoddau rhyngweithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi ysgolion cynradd ac arbennig i ddarparu addysg rhyw a pherthnasoedd yn effeithiol. Cyflwynais fy ngwaith mewn cynhadledd Ewropeaidd ‘Schools for Health in Europe’ yn Odense, Copenhagen. O ganlyniad i hyn, cefais fy ngwahodd i ysgrifennu erthygl ar gyfer journal rhyngwladol, o dan y teitl, Health Education a gafodd ei ddewis i fod yn un o 6 erthygl yn unig a gyhoeddwyd mewn rhifyn arbennig ar addysg rhywioldeb. Mae'r erthygl yn disgrifio datblygiad yr adnoddau a'r gwerthusiad cychwynnol. Mae hefyd yn dangos effaith yr adnoddau rhyngweithiol ar brofiadau addysgu a dysgu athrawon a myfyrwyr.

Cyfarwyddwr Teach Health 4 Kids yw fy ngŵr Dylan. Mae ganddo 38 mlynyddoedd o brofiad mewn addysg gynradd ac mae wedi bod yn Bennaeth mewn gwahanol ysgolion cynradd am dros 30 mlynedd. Yn ddiweddar, bu iddo ymddeol yn gynnar fel pennaeth ysgol gynradd. Fodd bynnag, mae'n parhau i weithio o fewn y proffesiwn wrth weithredu fel arolygydd annibynnol gyda Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Yn ystod ei yrfa rhoddodd bwyslais mawr ar ddiogelu a materion yn ymwneud ag iechyd, lles ac addysg bersonol. Mae ei gysylltiad hefyd â materion amddiffyn plant wedi cyfrannu at ddatblygu'r adnoddau arloesol hyn.

Mae gan Dylan a finnau bron i 80 o flynyddoedd o brofiad rhyngom o ran addysgu, diogelu a hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Am wybodaeth bellach cysylltwch drwy e-bost mail@teachhealth4kids.com.