Adborth

Ffeithlun - 'Taith ACaRh gorfodol' ar gyfer cynllunio tuag at ACaRh gorfodol
"Fel ysgol uwchradd amrywiol, mae'r ffeithlun 'Taith ACaRh gorfodol' a grëwyd gan Judith wedi rhoi llwybr hawdd i'w ddeall i'r Uwch Dîm Rheoli er mwyn i'n hysgol gynllunio ACaRh cynhwysfawr ysgol gyfan sy'n diwallu anghenion amrywiol ein dysgwyr."

Offeryn archwilio ACaRh yr ysgol gyfan
"Mae'r offeryn archwilio wedi rhoi cyfle i ni asesu'r ddarpariaeth bresennol. Mae hefyd wedi rhoi cipolwg i'r ysgol o'r hyn y mae angen i'r ysgol ei wneud er mwyn sicrhau ACaRh o safon uchel ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Pecyn gweithgareddau ymgynghori â dysgwyr
"Mae'r pecyn gweithgareddau ymgynghori â’r dysgwyr wedi rhoi cyfleoedd iddynt i fynegi eu barn am ein darpariaeth bresennol ac i gynnig awgrymiadau amhrisiadwy ar gyfer gwella ein ACaRh fel ei fod yn diwallu eu hanghenion amrywiol. Yr adborth mwyaf gwerthfawr a fynegodd dysgwyr oedd eu bod yn dymuno i'r holl bynciau gael eu cyflwyno'n llawer cynt yn eu bywyd ysgol e.e. dysgu am atal cenhedlu a heintau rhywiol yn llawer cynharach, a gwersi mwy manwl am y mislif ayb.

Cynlluniau gwaith
"Mae Judith wedi creu cynlluniau gwaith sydd wedi galluogi ein hysgol i gynllunio a darparu rhaglen ACaRh ysgol gyfan sy'n seiliedig ar hawliau ac ecwiti, sy'n cydymffurfio â'r disgrifiadau dysgu o fewn y Meysydd Dysgu, Canllawiau Cwricwlwm Cymru 2020.”

Awdurdod lleol
“Comisiynwyd Judith i gynorthwyo pob ysgol o fewn ein hawdurdod lleol er mwyn paratoi ar gyfer ACaRh gorfodol. Mae'r hyfforddiant i athrawon cynradd, uwchradd ac arbennig a hwyluswyd ganddi yn ogystal â'r adnoddau a'r dogfennau cynllunio y mae wedi'u creu wedi galluogi ein hysgol i gyd i gynllunio a datblygu rhaglen addysg ysgol gyfan fwy effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Bu Judith yn hwyluso hyfforddiant i athrawon a chynllunio digwyddiadau ar gyfer ysgolion unigol, ysgolion clwstwr cynradd/uwchradd yn ogystal â fforwm awdurdod cyfan. Mae'r holl staff addysgu wedi mynegi cynnydd mewn hyder wrth addysgu addysg cydberthynas. Mae'r cynlluniau gwaith mae Judith wedi'u creu wedi galluogi ysgolion i gynllunio'r cwricwlwm yn effeithiol er mwyn cydymffurfio â'r Cwricwlwm Newydd i Gymru 2020 a statws gorfodol ACaRh."