Ymgynghoriaeth
Fel Rheolwr Gyfarwyddwr a syfaenydd Teach Health 4 Kids™ yr wyf hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd ar agweddau amrywiol o iechyd a lles plant a phobl ifanc o fewn ysgolion.
Mae fy mhrofiadau academaidd mewn addysg ac iechyd i lefel meistr ac o fod wedi gweithio ar lefel uwch am dros 20 mlynedd wedi rhoi’r gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau i gefnogi a chynghori penaethiaid, athrawon, holl gymunedau ysgolion a phartneriaethau amlasiantaethol mewn hybu iechyd a lles plant a phobl ifanc yn y meysydd canlynol:
• Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol
• Iechyd a lles y staff
• Addysg Cydberthynas a rhywioldeb
• Diogelu
• Bwyd a ffitrwydd
• Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau
• Diogelwch
• Hylendid
• Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod
Mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad yn datblygu a chynnal hyfforddiant i athrawon, staff ysgolion a’r swyddogion iechyd. Y prif themâu o’r hyfforddiant a gyflwynwyd yw addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, amser cylch, sefydlu strategaethau cyfranogi ysgol gyfan, datblygu cyngor ysgol effeithiol ac iechyd a lles y staff.
I drafod unrhyw waith ymgynghorol posibl, mae croeso i chi gysylltu ar mail@teachhealth4kids.com