Adborth Hyfforddiant
Adborth Hyfforddiant Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb ar gyfer athrawon ysgolion cynradd ac arbennig. Dyma rai o’r sylwadau a dderbyniwyd gan y rhai a fynychodd:
“yr wyf wedi derbyn gwybodaeth am adnoddau a syniadau/ gweithgareddau y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno’r maes yn y dosbarth”.
“Yr wyf yn awr yn gwybodaeth am yr hyn sydd angen ei drafod / a’i gyflwyno ar draws yr ysgol.
“cryfder yr hyfforddiant i mi oedd cael mynediad i dorraeth o adnoddau a chael gwybod y camau sydd ei angen i blant oed derbyn i flwyddyn 6 wybod”.
“prif gryfde i mi oedd derbyn gwybodaeth am syniadau am wersi a cyfuno agweddau llythrennedd a rhifedd”
“yn dilyn yr hyfforddiant byddwn yn trefnu rhaglen gyson drwy’r ysgol ac yn adrodd yn ôl i’r holl staff a’r llywodraethwyr.
“Byddwn yn awr yn rhaeadru’r wybodaeth i weddill y staff ac yn gwneud yn siŵr bod sesiynau rheolaidd - nid pythefnos cyn hanner tymor!”
“Hyfforddiant diddorol a hwyliog- diogon o gyfle i drafod a chwestiynnu”
“y cwrs mwyaf defnyddiol a ddiddorol i mi fynychu ers amser maith, mae’r adnoddau a’r gweithgareddau wedi bod yn hynod ddefnyddiol”
“yr wyf yn llawer mwy hyderus i gynllunio ac addysgu Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb ar ôl yr hyfforddiant ac yn edrych ymlaen i fynd ati”
“cwrs gwerth chweil popeth yn addas ac yn ddefnyddiol ar gyfer athrawon cynradd”
“Yn eithaf ansicr ar ddechrau’r hyfforddiant ond yn falch o weld fy mod wedi cynyddu mewn hyder i ddysgu’r maes ar ddiwedd y dydd”
“yr wyf yn llawer mwy hyderus wrth fynd ati i ddysgu Addysg Rhyw a rhannu hefo staff yr ysgol”
“mae’r hyfforddiant wedi gwneud i mi ystyried sut y byddwn yn cyflwyno’r pwnc fesul dosbarth ayyb”
“yn sylweddoli bod gan yr holl athrawon yr ysgol fewnbwn i’r maes a’r angen cydweithio drwy gydol yr ysgol”
“yr wyf yn awr yn cydnabod pwysigrwydd dilyniant drwy’r ysgol ac yr hyn sy’n addas i oedran ac aeddfedrwydd y plant”
“wedi mwynhau rhannu syniadau ar beth a sut i gyflwyno”.
“yr wyf yn nawr yn ymwybodol o’r arywiaeth o strategaethau yr adnoddau a’r gweithgareddau wrth gyflwyno agweddau o addysg rhyw a pherthnasoedd”
”yr wyf yn nawr yn hyderus i gynllunio Addysg Perthnasoedd aRrhywioldeb ar draws yr ysgol”.
”cwrs da iawn a falch gweld bod pawb yn sylweddoli pwysigrwydd y testun”.
“Oedd y sgyrsiau anffurfiol a’r cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y sesiwn yn ddefnyddiol iawn”.
“Yr wyf nawr yn gwybod pa mor bell i gynnal trafodaeth”.
“yn sylweddoli bod gan yr holl athrawon yr ysgol fewnbwn i’r maes a’r angen cydweithio drwy gydol yr ysgol”
“yr wyf yn awr yn cydnabod pwysigrwydd dilyniant drwy’r ysgol ac yr hyn sy’n addas i oedran ac aeddfedrwydd y plant”
“wedi mwynhau rhannu syniadau ar beth a sut i gyflwyno”.
“yr wyf yn nawr yn ymwybodol o’r amrywiaeth o strategaethau, adnoddau a’r gweithgareddau wrth gyflwyno agweddau o addysg rhyw a pherthnasoedd”
”yr wyf yn nawr yn hyderus i gynllunio Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb ar draws yr ysgol”.
”cwrs da iawn a falch gweld bod pawb yn sylweddoli pwysigrwydd y testun”.
“Oedd y sgyrsiau anffurfiol a’r cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y sesiwn yn ddefnyddiol iawn”.
“Yr wyf nawr yn gwybod pa mor bell i gynnal trafodaeth”.
“oedd y sesiwn ymarferol amser cylch yn werthfawr iawn”.
“Cyfle i drafod a holi cwestiynau”
“Oedd gan yr hyfforddwraig wybodaeth eang ac adnoddau defnyddiol tu hwnt! Diolch!
“gwaith grŵp yr amser cylch – Balans da i’r cwrs yn gyffredinol yn fy marn i”.
“Syniadau ar sut i gyflwyno’r maes yn hynod werthfawr”
“Gwybodaeth am adnoddau perthnasol”
“Syniadau am wersi a chyfuno agweddau llythrennedd a rhifedd yn werthfawr iawn”
“Derbyn gwybodaeth am adnoddau a syniadau/ gweithgareddau y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno’r maes yn y dosbarth”.
“Gwybodaeth am yr hyn sydd angen ei drafod / a’i gyflwyno ar draws yr ysgol”.
“Cael mynediad i dorraeth o adnoddau a chael gwybod y camau sydd ei angen i blant oed derbyn i flwyddyn 6 wybod”.