Gwasanaethau Unigryw
Mae comisiynau ACaRh blaenorol wedi cynnwys:
- Hwyluso Awdurdodau Lleol a Chonsortia Addysg i gwmpasu darpariaeth ACaRh o fewn yr awdurdod/rhanbarth.
- Hwyluso digwyddiadau clwstwr ysgolion unigol yn ogystal â'r ysgolion cynradd/uwchradd i ddatblygu darpariaeth ysgol gyfan/clwstwr o ACaRh.
- Hyfforddiant ar gyfer athrawon cynradd, uwchradd ac ADY.
- Hwyluso digwyddiadau 'Hyfforddi'r Hyfforddwyr' ar gyfer ysgolion uwchradd.
- Awdit ac ymchwil ACaRh ysgol gyfan.
- Digwyddiadau rhannu gwybodaeth ar gyfer rhieni/gofalwyr.
- Ysgrifennu adroddiadau cynhwysfawr.
Gwasanaethau Awdurdodau Lleol a Sefydliadau
Gellir comisiynu gweithgareddau pwrpasol i weddu i ofynion unrhyw awdurdod lleol neu sefydliad.