PECYN ADNODDAU CYNRADD

£220 pob pecyn adnoddau Postio a phacio £10.00 ar gyfer archebion yn y DU (gostyngiad am bostio archebion niferus.

Mae’r holl gardiau a’r adnoddau ar gyfer y disgyblion ar gael yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae’r pecyn adnoddau yn cynnwys llawer o gydrannau amrywiol– (sgroliwch lawr i weld manylion pob pecyn)

Dewis o 2 mat llawr maint 90cm x 110cm – bachgen a merch (delwedd blaen a chefn) o ddewis ethnig:

  • African
  • Asiaidd
  • Caucasian
  • Hispanig

Argymir eich bod yn dewis ethnigrwydd gwahanol ar gyfer pob mat er mwyn bod yn gynhwysol ac adlewyrchu amrywiaeth.

CYSWLLT AR GYFER ARCHEBU’R ADNODDAU mail@teachhealth4kids.com

MAE POP PECYN YN CYNNWYS 1 MAT BENYWAIDD AC 1 MAT GWRYWAIDD.

1. DEWISWCH ETHNIGRWYDD EICH DEWIS (i sicrhau amrywiaeth fe'ch cynghorir i ddewis ethnigrwydd gwahanol ar gyfer pob mat)

Bachgen African

Merch African

Bachgen Caucasian

Merch Caucasian

Bachgen Asiaidd

Merch Asiaidd

Bachgen Hispanig

Merch Hispanig

MAE POB PECYN YN CYNNWYS:

Mae'r pecyn adnoddau yn cynnwys chwe pwnc gyda gweithgareddau manwl mewn stwythyr Amser Cylch sydd yn cynnwys:-

  • Cyflwyno’r terminoleg gywir ar gyfer pob rhannau o’r corff ac addysgu am yr hawl i breifatrwydd corfforol a ffiniau personol.
    Addas ar gyfer disgyblion 5-11 oed
  • Fy Nghorff Anhygoel.
    Addas ar gyfer disgyblion 7-11 oed
  • Newidiadau glasoed a sut i gadw'r corff a'r meddwl yn iach.
    Addas ar gyfer disgyblion 8-11 oed
  • Hybu llythrennedd emosiynol - Dyddiau Da!
    Addas ar gyfer disgyblion 7-11 oed
  • Atal fêpio ac ysmygu - Rhy cŵl i fêpio ac ysmygu!
    Addas ar gyfer disgyblion 7-11 oed
  • Atal yfed alcohol - Rhy ddoeth i alcohol!
    Addas ar gyfer disgyblion 7-11 oed

Atodiad 1, Model arwydd diogelwch ar gyfer trafod cyffwrdd priodol ac amhriodol. Atodiad 2, Labeli arwyddio diogelwch. Set o gardiau coch, oren a gwyrdd i’w llungopïo ar gyfer darparu un set i pob disgybl.
Atodiad 3, Taflen waith o amlinelliad y corff.

  • Cardiau labeli rhannau’r corff ar gyfer labelu’r corff.
  • Cardiau glasoed ar gyfer trafod datblygiadau glasoed (mae’r cardiau yma yn cyfateb i’r dewis ethnig y mat llawr).
  • Cardiau organau mewnol - penglog, ymennydd, ysgyfaint, calon, stumog, iau, coluddyn, arennau, organau atgenhedlu, symbolau yn cynrychioli'r 5 synnwyr a sgerbwd llawn.
  • Gwisg nofio, blaen a chefn.

Mae’r adnoddau uchod yn dod gyda bag cryf gyda sip ynghŷd â waled blasting sydd yn ddefnyddiol ar gyfer storio’r cydrannau amrywiol yn y pecyn. Mae hefyd waled plastig ar gael i storio y labeli’r corff, cardiau glasoed, llyfryn gwybodaeth athrawon a’r cardiau organau mewnol amrywiol

£220 pob pecyn adnoddau Postio a phacio £10.00 ar gyfer archebion yn y DU (gostyngiad am bostio archebion niferus.

Archebu drwy E-bost os gwelwch yn dda a rhoi eich dewisiadau ethnig ar gyfer y matiau ynghyd â'ch dewis iaith - Cymraeg yn unig, Saesneg yn unig, dwyieithog Cymraeg a Saesneg. Mae ieithoedd eraill ar gael ar gyfer archebion arbennig.

LANGUAGE OPTION – WELSHOR ENGLISH (for both there is an additional cost of £15.00)

Am wybodaeth bellach neu i wneud archeb cysylltwch Teach Health 4 Kidsdrwy e-bost mail@teachhealth4kids.com.